Hybrisan

Amddiffyn, nid heintio

Hybrisan

Busnes

Arbenigwyr Gwrthficrobaidd

Sector

Lleoliad

Port Talbot

Gwasanaethau Cefnogi CNPT

Cymorth Busnes

Mae Hybrisan yn defnyddio’r ymchwil ddiweddaraf a datblygu cynhyrchion i ddod â chynhyrchion i’r farchnad er mwyn ymateb i ystod o ofynion diwydiannol a meddygol. Mae eu peirianwyr a’u microfiolegwyr arbenigol wedi archwilio sut mae bacteria’n dysgu bod ag imiwnedd i wrthfioteg.

Gan ddefnyddio deunydd heb ei wehyddu a nano-groen, maen nhw wedi creu cymwysiadau meddygol a phersonol sy’n gwarchod yn erbyn haint. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cyffuriau, rhoi dresin ar glwyfau a hidlo aer.

Lleolir Hybrisan ar Ffordd Cramic, Port Talbot, yn agos at orsaf Parcffordd Port Talbot ar y brif lein. Dr Lee Bridgeman yw Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Hybrisan ac mae’n credu bod y gronfa o ddoniau yn rhanbarth Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn allweddol i’w llwyddiant.

“Within the local steel industry, there are lots of technical skills and knowledge of operations, which is something we need. Also, the fact that we have a mainline railway station next to us is important as we want students using our facility to have easy access.”

Dr Lee Bridgeman

CEO / Founder

Y Fantais Ranbarthol

Mae busnesau yn dewis Castell-nedd Port Talbot am ei chysylltiadau trafnidiaeth – ffordd, rheilffordd, môr ac awyr. Maen nhw’n dewis CNPT oherwydd ei bod yn cysylltu dwy ddinas-ranbarth sy’n tyfu’n gyflym, gan gynnig digonedd o ddoniau a chyfleoedd. Maen nhw’n dewis CNPT oherwydd bod campws prifysgol â’r cyfleusterau diweddaraf a chanolfannau rhagoriaeth Ymchwil a Datblygu ar garreg y drws. Maen nhw’n dewis CNPT oherwydd ei bod yn agos at ddinasoedd lle mae bywyd yn symud yn gyflym, traethau hamddenol a thirluniau ysgubol y cymoedd. Ac os dewiswch chi CNPT, fe gewch fod cost sefydlu busnes yma mewn gwirionedd yn is nag mewn llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Siaradwch ag arbenigwr rhanbarthol i archwilio’r cyfleoedd ar gyfer eich busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot.

(01639) 686 835