Arloesedd

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cysylltu rhanbarth Castell-nedd Port Talbot â diwydiannau trwm traddodiadol fel mwyngloddio a dur. Peidiwch camddeall – rydyn ni’n eithriadol o falch o’n treftadaeth ddiwydiannol – ond rhan o’r stori yn unig yw hynny. Er bod y ffwrneisiau chwyth yn dal yn amlwg ar y nenlinell leol, mae’r ardal yn mynd trwy chwyldro diwydiannol llawer mwy tawel a gwyrdd erbyn hyn.

Mae prosiect trawiadol Glannau’r Harbwr wedi adfywio dros 100 erw o dir y dociau gynt, gan drawsffurfio’r ardal yn hwb masnachol â ffocws ar wybodaeth, gan ddarparu swyddi medrus a chyfleoedd i fewnfuddsoddi. Mae’r pentref Ymchwil a Datblygu 42,000 tr.sg. yno eisoes wedi denu cwmnïau byd-eang fel TWI a ThyssenKrupp.

Parc Ynni Baglan yw’r cam cyntaf at adfywio Bae Baglan. Mae’r parc 180-erw wedi dod i’r amlwg fel un o brif leoliadau busnes a diwydiannol Cymru, gan ddenu buddsoddi sylweddol gan ystod o gwmnïau. Mae’n gartref i Ganolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru, canolfan ymchwil ac arddangos hydrogen gyntaf Cymru. Bydd hefyd yn lleoliad i Ganolfan Dechnoleg Bae Abertawe, adeilad hybrid positif o ran ynni a fydd yn darparu ystod o le hyblyg ar gyfer swyddfeydd i gefnogi cwmnïau sy’n cychwyn a thwf busnesau brodorol, gyda ffocws ar arloesedd a chwmnïau Ymchwil a Datblygu.

Mae Campws y Bae Prifysgol Abertawe ar lain 65 erw a fu gynt yn safle trosglwyddo i BP ar Ffordd Fabian, y ffordd i mewn i Abertawe o’r dwyrain. Uchelgais y brifysgol oedd creu cyfadeilad newydd a fyddai’n arwain y byd o ran ymchwil, arloesedd ac addysg. Gwireddwyd hynny pan agorwyd Campws y Bae ym mis Medi 2015, ac mae’n un o’r prosiectau economi wybodaeth mwyaf hyd yma yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.