Lle i greu

Mae pobl yma yn creu pethau hardd

Mae rhywbeth am Gastell-nedd Port Talbot yn ysbrydoli pobl yma i greu pethau hardd. Efallai mai’r tirluniau dramatig sy’n gyfrifol. Neu o bosib ein treftadaeth ddiwydiannol. Neu efallai bod rhywbeth yn y dŵr. Beth bynnag yw’r ateb, mae ein ‘hallforion’ doniau creadigol fel Katherine Jenkins, Michael Sheen ac Anthony Hopkins i gyd yn galw’r ardal hon yn ‘gartref’.

Ac nid dim ond y bobl sydd o flaen y camera rydyn ni’n eu darparu, mae ein diwydiannau Celfyddydau a Chreadigol yn darparu dychymyg ac arbenigedd ym meysydd ysgrifennu ar gyfer y sgrîn, dylunio set, cynhyrchu a pheirianneg sain. Mae’n eglur bod creadigrwydd yn ein DNA, ynghyd â hunaniaeth ddiwylliannol gref a’n huchelgais i ddatblygu a thyfu’r economi.

Cydnabyddir Cymru fel canolfan ar gyfer cynhyrchu teledu a ffilmiau. Mae’r Diwydiannau Creadigol yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, gyda throsiant blynyddol o fwy na £1.9 biliwn ac yn cyflogi rhyw 58,000 o bobl, 52% yn fwy na 10 mlynedd yn ôl.

Stiwdios y Bae yng Nghastell-nedd Port Talbot yw un o stiwdios ffilm mwyaf Ewrop, gyda mwy na 600,000 tr.sg. o gyfleusterau llwyfan sain a bron 80,000 tr. sg. o swyddfeydd cynhyrchu.

“I mi, mae’n wych gweld gwaith mor rhyfeddol yn digwydd yn agos at fy nghartref, gyda llawer o bobl yn gweithio ar amrywiol gynyrchiadau sydd wedi dod i’r ardal. O gael y cyfle, mae pobl Castell-nedd Port Talbot bob amser yn ysbrydoli ac yn rhyfeddu â’u creadigrwydd, eu hymrwymiad, eu hangerdd a’u doniau. Maen nhw’n gallu cynhyrchu gwaith o’r radd flaenaf, ac o gael y math yna o lwyfan, bydd y byd yn cael cyfle i brofi hynny.”
MICHAEL SHEEN, ACTOR, GANED YM PORT TALBOT