Eiddo a Chwiliadau Tir

Cael hyd i’r Eiddo cywir

Bydd busnesau sy’n awyddus i ymsefydlu yng Nghastell-nedd Port Talbot neu adleoli yno yn cael bod ein Cronfa Ddata o Dir ac Eiddo Masnachol yn amhrisiadwy. P’un a ydych chi’n chwilio am le gweithgynhyrchu, tir datblygu, labordai â’r cyfleusterau diweddaraf neu gyfleusterau swyddfa modern, gallwn ni helpu.

Rydyn ni’n cydweithio’n agos â datblygwyr eiddo ac asiantau eiddo i ddarparu opsiynau eiddo wedi’u diweddaru i chi, mae ein gwasanaethau’n cynnwys:

  • Cefnogaeth un i un, lle rydym ni’n asesu eich holl anghenion eiddo ac yn nodi opsiynau eiddo posibl i chi.
  • Cronfa ddata chwiliadwy o eiddo gyda’r holl eiddo gwag diweddaraf sy’n eiddo i’r cyngor ac eiddo masnachol a thir sydd mewn dwylo preifat yn y rhanbarth.
  • Gwybodaeth arbenigol am yr ardal leol a’r ardaloedd o amgylch.