Sbotolau ar Eiddo a Thir

Castell-nedd Port Talbot yw’r lle i arloesi, creu a chysylltu. Rhywle lle mae twf cynaliadwy, hirdymor yn cael ei sbarduno gan strategaeth effeithiol, buddsoddi cyfrifol, pobl ddawnus a threfniadau cydweithio llwyddiannus.

Mae nifer o gyfleoedd masnachol posibl yn aros i gael eu darganfod gan fusnesau sy’n awyddus i fuddsoddi, datblygu a thyfu yng nghalon arloesedd Cymru. Rydym wedi amlygu rhai yma.

Mae gan y Tîm Datblygu Economaidd enw da am ddeall eich anghenion busnes yng nghyswllt cael hyd i’ch canolfan fusnes ddelfrydol.

I gael manylion yr holl eiddo a safleoedd sydd ar gael i’w prydlesu/prynu ar unwaith, ewch i’n Cronfa Ddata Tir ac Eiddo Masnachol yma Cronfa Ddata Tir ac Eiddo Masnachol.

Rydym ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i’r gymdogaeth.