Canolfan Cymru ar gyfer Gweithgynhyrchu Sypiau Lefel Uwch (CBM)

Sefydlwyd CBM gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ac mae’n gyfleuster â ffocws ar ddiwydiant ar gyfer ymchwil flaengar, datblygu cynnyrch newydd a gweithgynhyrchu sypiau.

Mae’r ganolfan yn cynnig tîm datblygu hynod brofiadol a’r platfformau technoleg diweddaraf, gan gynnwys printio 3D, sganio a gweithgynhyrchu niferoedd bychain.

Mae CBM yn elfen greiddiol o gampws SA1 Prifysgol Abertawe, ac mae’n sbarduno arloesedd, creadigrwydd ac entrepreneuriaeth ymhlith cwmnïau sy’n ymwneud â datblygu cynnyrch newydd a gweithgynhyrchu niferoedd isel.

Mae’r ganolfan yn cefnogi arloesedd diwydiannol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau a sectorau diwydiant, gan gynnwys Awyrofod, Moduron, Meddygol a Deintyddol.