Ysbrydoli

Bydd lleoli eich cwmni yng Nghastell-nedd Port Talbot, yng nghalon De Cymru gyda chysylltiadau ffordd, rheilffordd, môr ac awyr ardderchog, yn rhoi eich busnes mewn lle canolog ac ar y blaen.

Rydym ni’n ymfalchïo’n fawr yn ein gorffennol diwydiannol a’n cysylltiad hir â’r diwydiant dur. Ond heddiw, rydym ni’n gwneud pob ymdrech i arallgyfeirio ein heconomi leol. Mae gweithgynhyrchu arloesol, datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy bellach yn ganolog i’n strategaeth datblygu economaidd.Yn lleol, mae ein sylfaen gweithgynhyrchu yn un o’r mwyaf yng Nghymru, ac mae ganddo enw rhagorol am gynhyrchu o safon a gweithlu hyblyg, medrus ac amrywiol.

Mae partneriaethau cyhoeddus, sector preifat ac academaidd cryf yn creu buddsoddiad mewn arloesedd a chyfleusterau Ymchwil a Datblygu, ac mae ein Canolfannau Rhagoriaeth mewn Peirianneg Lefel Uwch, Cynhyrchu Dur a Metel a Chynhyrchu a Storio Hydrogen Adnewyddadwy yn cael eu cydnabod ar draws y byd.

Wrth i Gymru ymbaratoi ar gyfer “Chwyldro Technolegol” o ran sut caiff ynni ei greu, ei ddosbarthu a’i ddefnyddio, bydd gan Bort Talbot, gyda’i chyfuniad unigryw o fynediad i ddŵr dwfn; tir llwyd; cysylltiadau rheilffordd; capasiti gweithgynhyrchu a llafur medrus bwysigrwydd strategol o safbwynt dod yn hwb cynhyrchu tyrbinau ag arwyddocâd byd-eang yn y dyfodol.

Rydym hefyd yn gymuned o arloeswyr cydweithredol, gydag entrepreneuriaid yn gweithio ar draws sectorau twf uchel eraill megis Technoleg Feddygol, Technoleg, Adeiladwaith a’r Diwydiannau Creadigol. Mae llawer ohonynt yn gweithio o’n hybiau masnachol, hyblyg, sydd â chyflenwad da o wasanaethau, ein pentrefi Ymchwil a Datblygu a’n canolfannau technoleg sydd â’r cyfleusterau diweddaraf.

Gyda chyflenwad digonol o fyfyrwyr a graddedigion o Gampws y Bae Prifysgol Abertawe i’w canfod yma yng Nghastell-nedd Port Talbot, a dwy brifysgol arall neilltuol a cholegau lleol yn yr ardal, ynghyd â lleoliad canolog sy’n cysylltu dwy ddinas-ranbarth sy’n tyfu’n gyflym, gan gynnig cronfa ehangach o ddoniau o fewn pellter cymudo hwylus. Os ychwanegwch gysylltedd â marchnadoedd byd-eang a sylfaen costau isel, mae gennych gyfuniad pwerus i ddenu buddsoddi.