Sefydliad Ymchwil Peirianneg a Deunyddiau Lefel Uwch (AEMRI)

Arbenigwyr mewn modelu ac efelychu lefel uwch

Mae AEMRI, is-adran arbenigol o’r grŵp TWI, wedi’i leoli yng Nghanolfan Dechnoleg TWI (Cymru). Mae’n adeiladu ar hanes sefydledig TWI o ymchwil ddiwydiannol flaengar mewn Profion Annistrywiol trwy brosiectau a ariennir gan yr UE ac yn cefnogi sectorau deinamig gan gynnwys awyrofod, modurol, electroneg ac ynni niwclear ac adnewyddadwy.

Mae AEMRI yn arbenigo mewn modelu ac efelychiadau lefel uwch, profion mecanyddol llawn ar raddfa fawr, a Gwerthuso Annistrywiol awtomatig lefel uwch ar gyfer canfod diffygion critigol, ac mae’n rhannu ei weithrediadau’n 4 maes gwahanol:

  • Modelu ac efelychu deunyddiau a strwythurau perfformiad uchel
  • Archwiliadau robotig lefel uwch o strwythurau geometreg cymhleth
  • Systemau archwilio ar gyfer strwythurau mawr iawn i’r sector ynni gwyrdd
  • Ymchwil a dilysu ffabrigo niwclear