Canolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru

Mae Parc Ynni Baglan yn gartref i ganolfan ymchwil ac arddangos hydrogen gyntaf Cymru, a ddatblygwyd gan Brifysgol De Cymru, gyda chefnogaeth gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru.

Mae’r Ganolfan Ymchwil Hydrogen yn darparu canolbwynt ar gyfer Ymchwil a Datblygu technoleg ynni hydrogen yng Nghymru, ac ar gyfer cyfres o brosiectau cydweithredol rhwng y brifysgol a phartneriaid diwydiannol.

Un o brif swyddogaethau’r ganolfan yw cynyddu ymwybyddiaeth o hydrogen fel cludydd ynni glân a chynaliadwy, gyda’r potensial i leihau ein dibyniaeth ar ynni a fewnforiwyd. Yn ogystal ag ymchwil ar gynhyrchu a storio hydrogen, mae gwaith yn cael ei wneud hefyd ar effeithiau economaidd a chymdeithasol ynni hydrogen.