Sut gallwn ni helpu?
Mae gan ein tîm enw rhagorol am ddeall eich anghenion busnes a helpu busnesau sy’n awyddus i fuddsoddi yng Nghastell-nedd Port Talbot ac adleoli yno.
Gall penderfynu adleoli neu ehangu eich busnes fod yn daith gymhleth, felly pa gam bynnag o’r broses rydych chi wedi cyrraedd, bydd ein tîm yn eich tywys bob cam o’r ffordd. O’ch helpu i gael mynediad i gyllid, cael hyd i eiddo posibl, gwneud cais am ganiatâd cynllunio a hawlenni, i’ch rhoi mewn cysylltiad â rhwydweithiau busnes lleol a sefydliadau partner.
Mae ein gwasanaeth yn gyfrinachol ac ar gael AM DDIM i fusnesau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Gall ein tîm eich cyflwyno i ddarpar gyflenwyr, rhwydweithiau lleol, rhwydweithiau addysgol, cefnogaeth recriwtio a chefnogaeth ariannol.
Cysylltwch ag un o’r tîm heddiw a dysgu sut gallwn ni sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth gywir sy’n diwallu eich anghenion busnes.
- Cyllid
Bydd ein tîm yn eich helpu i archwilio opsiynau ariannu a chael mynediad i’r gefnogaeth ariannol briodol. Gallwn ni gynnig cymorth i gael hyd i gyllid busnes posibl a’ch cyfeirio at fentrau eraill, gan gynnwys parthau menter, rhaglenni sbarduno a chefnogaeth arall gan bartneriaid eraill allweddol fel Llywodraeth Cymru. - Mynediad at gadwyni cyflenwi a rhwydweithiau
Byddwn ni’n eich helpu i ganfod cadwyn gyflenwi leol a chenedlaethol bosibl ac yn eich cyflwyno, lle bo hynny’n briodol. - Gwybodaeth ac arloesedd
Gallwn ni eich cyflwyno i’n canolfannau rhagoriaeth rhanbarthol, sydd i’w canfod yn ein prifysgolion lleol, mewn sefydliadau ymchwil sector preifat a ffynonellau eraill cyllid cyhoeddus. Mae llawer yn cynnig cryn gyfleoedd i drosglwyddo gwybodaeth a chydweithio ar ddatblygu cynnyrch. - Cael mynediad i wasanaethau eraill y cyngor
Byddwn ni’n eich llywio at y gwasanaethau statudol perthnasol mae’r cyngor yn eu darparu, gan gynnwys cynllunio, hawlenni amgylcheddol, etc. - Cefnogaeth barhaus
Byddwn ni’n mynd ati’n rhagweithiol i gefnogi twf parhaus eich busnes ac yn gweithio gyda chi i wireddu cynlluniau ar gyfer buddsoddi pellach yn y dyfodol oddi mewn i Gastell-nedd Port Talbot.