Lle i addysgu

Doniau parod i weithio i roi hwb i’ch busnes

Mae Castell-nedd Port Talbot yn darparu digonedd o gyfleoedd dysgu, beth bynnag yw’r pwnc a lefel yr addysg.

O brifysgolion sydd ymhlith y goreuon yn y byd, yn cynnig cronfa gyflogaeth fedrus a dawnus i fuddsoddwyr, i golegau lleol sy’n cynnig dull amrywiol, ymarferol o ymdrin â hyfforddiant, mae’n hawdd gweld pam mae myfyrwyr yn dewis astudio yma.

  • Prifysgol Abertawe: Prifysgol a arweinir gan ymchwil, gyda dau gampws godidog ar y glannau yn cynnig y cydbwysedd cywir rhwng addysgu rhagorol ac ansawdd bywyd i genfigennu ato. Bernir bod 90% o’r gwaith ymchwil yn arwain y byd neu’n ardderchog yn rhyngwladol, gan fod cydweithio rheolaidd â busnesau yn digwydd er mwyn datblygu a phrofi cynhyrchion a gwasanaethau newydd.
  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS): Gyda mwy na 25,000 o ddysgwyr ar draws 17 o safleoedd, mae gan PCYDDS gysylltiad agos â diwydiant, busnes a menter, gyda phwyslais strategol cryf ar gefnogi arloesedd a throsglwyddo gwybodaeth.
  • Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot: Un o ddarparwyr addysg bellach mwyaf Cymru. Yn 2020, daeth yn ail ym mhleidlais y Deyrnas Unedig dros y ‘Coleg Addysg Bellach Gorau ar gyfer Hyfforddiant Prentisiaeth’ ac roedd yn un o 10 uchaf darparwyr hyfforddiant y Deyrnas Unedig.

O’u cyfuno, mae’r cyfleusterau addysg hyn o safon uchel yn darparu manteision clir, amlwg i ddysgwyr, cyflogwyr, diwydiant a chymunedau trwy sicrhau dull galwedigaethol o ymdrin â’u holl gyrsiau, o lefel mynediad i ymchwil ôl-ddoethurol.

Os ysgolion sydd o ddiddordeb i chi, mae Rhaglen Gwella Ysgolion Strategol y Cyngor a menter Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi £150 miliwn mewn sicrhau bod ein hysgolion yn fannau dysgu â’r holl gyfleusterau modern, fel bod athrawon yn gallu canolbwyntio ar fwyafu’r deilliannau addysgol.

“Mae ymagwedd gydweithredol at ymchwil a datblygu rhwng ein prifysgolion a’r sector preifat yn cryfhau ein sefyllfa fel lleoliad arloesol o ansawdd uchel i fuddsoddi ynddo.”
Simon Brennan, Pennaeth Eiddo ac Adfywio