Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn rhaglen ddigynsail o fuddsoddi yn rhanbarth De-orllewin Cymru, sef awdurdodau lleol Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae’r rhanbarth wedi sicrhau’r Fargen Ddinesig fwyaf yng Nghymru hyd yma, ac mae’n werth cyfanswm o £1.3 biliwn yn ystod y 15 mlynedd nesaf.

Bydd y fargen hon yn rhoi hwb o £1.8 biliwn o leiaf i’r economi ranbarthol. Ond efallai’n bwysicach, bydd yn gwella bywydau pobl ar draws De-orllewin Cymru, trwy wella gwasanaethau, hybu sgiliau, codi lefel dyheadau a chreu miloedd o gyfleoedd cyflogaeth newydd, am gyflog da.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn arwain rhaglen £58.7 miliwn i gyflwyno swyddi a thwf cynaliadwy er mwyn cefnogi’r broses o greu economi arloesol, wedi’i datgarboneiddio.

Bydd y rhaglen hon, y rhagwelir y bydd hi’n werth £6.2 miliwn y flwyddyn i’r economi leol, yn cyflwyno nifer o brosiectau sy’n canolbwyntio ar y canlynol:

  • Datgarboneiddio’r diwydiant dur a metelau.
  • Creu adeiladau o safon uchel, a ddyluniwyd yn arloesol, sy’n bositif o ran ynni, gyda lle ar gyfer swyddfeydd a labordai i gefnogi twf busnesau lleol neu fuddsoddwyr newydd i’r ardal.
  • Darparu map o’r llwybr i gefnogi masnacholi hydrogen.
  • Cyflwyno cefnogaeth arbenigol i’r sector gweithgynhyrchu lefel uwch.

I gael rhagor o wybodaeth am Fargen Ddinesig Bae Abertawe, ewch i www.swanseabaycitydeal.wales