Penodol: Adeiladau fel Gorsafoedd Pŵer

Mae SPECIFIC, neu’r Ganolfan Peirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (i roi ei henw llawn iddi), yn un o ddim ond saith Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth yn y DU.

Wedi’i lleoli yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe, gweledigaeth y ganolfan yw creu byd lle gall adeiladau gynhyrchu, storio a rhyddhau eu gwres a’u trydan eu hunain o ynni solar.

Mae adeiladau yn cyfrif am tua 40% o allyriadau carbon byd-eang; yn y DU maent yn defnyddio tua 40% o’r holl ynni a gynhyrchir. Mae SPECIFIC a’i brosiectau partner yn paratoi’r ffordd ar gyfer datgarboneiddio gwres a phŵer mewn adeiladau, yn y DU ac yn rhyngwladol.