Systemau Ynni Integredig Hyblyg (FLEXIS)

Systemau ynni o’r radd flaenaf.

Prosiect ymchwil £24 miliwn yw FLEXIS i ddatblygu gallu ymchwil systemau ynni sydd ymhlith y goreuon yn y byd yng Nghymru, gan adeiladu ar y cyfoeth o arbenigedd sydd eisoes yn bodoli ym mhrifysgolion Cymru. Arweinir y prosiect gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru, gyda phrifysgolion Aberystwyth a Bangor, yn ogystal ag Arolwg Daearegol Prydain, sydd hefyd yn rhan ohono. Ymhlith y partneriaid strategol eraill mae TATA Steel UK, Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Mae FLEXIS yn canolbwyntio ar nifer o ddatblygiadau ynni cyffrous, gan gynnwys cipio carbon a storio hydrogen. Mae’r prosiect hefyd yn mynd i’r afael â materion pwysfawr mae cymdeithas yn eu hwynebu, megis y newid yn yr hinsawdd, prisiau ynni sy’n codi a phrisiau tanwydd.