Pam CNPT

Lle ar gyfer busnes

Edrychwch yn ofalus ar y map yma o Dde a Gorllewin Cymru. Nawr dewch o hyd i’r lleoliad mwyaf canolog. Rydych chi’n edrych ar Gastell-nedd Port Talbot.

Mae llawer o fanteision i fod mewn lleoliad mor strategol. Mae busnesau’n dewis Castell-nedd Port Talbot oherwydd ei gysylltiadau dihafal – funudau’n unig o’r M4, a chyda chysylltiadau rheilffordd cyflym, fel bod modd cyrraedd marchnadoedd ledled Cymru a Lloegr yn hwylus, tra bod ein porthladd dŵr dwfn a’n hagosrwydd at feysydd awyr Caerdydd, Bryste a Heathrow yn creu cysylltiadau â gweddill y byd.

Mae’r ardal hefyd yn cysylltu dwy Ddinas-Ranbarth sy’n tyfu’n gyflym, ac sy’n cynnig gwledd o ddoniau a chyfleoedd ar garreg y drws. Mae Campws y Bae Prifysgol Abertawe a’i chanolfannau rhagoriaeth i’w canfod yma yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac mae dwy brifysgol arall neilltuol o fewn cyrraedd cymudo hwylus.

Er bod ein hagosrwydd at ddinasoedd llawn bywyd, traethau hamddenol a golygfeydd godidog y cymoedd yn gwneud Castell-nedd Port Talbot yn lle gwych i dreulio amser, efallai byddwch chi’n synnu i glywed bod costau byw a sefydlu busnes yma yn llawer is nag mewn llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig.