Lle i fyw

Lle gwych i ymgartrefu

Nid dim ond lleoliad gwych ar gyfer busnes yw Castell-nedd Port Talbot, mae hefyd yn lle gwych i ymgartrefu.

Mae costau byw is o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, wedi’u cyfuno â bywyd mwy hamddenol, yn golygu bod cydbwysedd gwaith-bywyd boddhaol yn llawer haws ei gyflawni, a bydd hynny’n rhoi mwy o amser ac egni i chi archwilio’r tirluniau dramatig amrywiol o’ch amgylch.

Dringwch i fyny un o’n bryniau a gwylio theatr naturiol yr wybren, y môr a’r tir oddi tanoch. Mae natur a gwaith dyn yn bodoli ochr yn ochr. Mae rhaeadrau’n disgyn i gwrdd â’r tonnau. Mae ein cymunedau’n ymfalchïo yn ein treftadaeth ddiwydiannol.

Mae ein mynyddoedd a’n cymoedd, ein hafonydd a’n harfordir hefyd yn darparu lle chwarae naturiol ar gyfer ystod o weithgareddau, p’un ai eich syniad chi o antur yw gwibio i lawr Cwm Afan ar feic mynydd neu wneud llanast o hufen iâ ar lan y môr yn Aberafan.

Mae pobl Castell-nedd Port Talbot mor unigryw â’r tirlun, ac fe gewch hyd i’n cymeriad digamsyniol ble bynnag yr ewch – Cymry cyfeillgar, dilys.