BYW, CHWARAE A GWEITHIO

Yng nghanol De Cymru, gyda chysylltedd gwych â marchnadoedd y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd, mae Castell-nedd Port Talbot yn amgylchedd gwych i fusnesau dyfu a ffynnu.

Roedd yr ardal hon yn ganolog i’r Chwyldro Diwydiannol, pan ddaeth haearn a dur i’w hanterth, ond heddiw, mae ffocws ar annog arloesedd, ymchwil a datblygu, arfer gorau a gweithio ar y cyd trwy ein gweithgynhyrchu sy’n enwog ar draws y byd a’n Canolfannau Rhagoriaeth sy’n gysylltiedig â pheirianneg, a chynhyrchu dur a metel ac agenda datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy.

Mae’r ardal hefyd yn meithrin arloeswyr ac entrepreneuriaid ar draws ystod o sectorau sy’n tyfu megis Technoleg Feddygol, Technoleg, Adeiladu a’r Diwydiant Creadigol.

Mae cyferbyniad amlwg byd natur a diwydiant yn creu llwyfan dramatig nad yw i’w weld mewn llawer o fannau eraill. O’n bryniau, gallwch chi wylio drama’r awyr, y môr, y tir a’r bobl oddi tanoch. Mae ein tirweddau’n faes chwarae antur naturiol ar gyfer llu o weithgareddau.

Nid rhywle i fyw yn unig yw Castell-nedd Port Talbot – mae’n lle i chwarae ac i fyw.

Mae ein cymunedau’n rhan o’r ardal lawn cymaint â’r tirlun. Yn llawn balchder o’u treftadaeth ddiwydiannol, ond wrthi’n hyderus yn creu dyfodol yfory.

Mae gan Dîm Datblygu Economaidd Castell-nedd Port Talbot brofiad helaeth o helpu buddsoddwyr a busnesau i wireddu eu huchelgais o ran datblygiad a thwf yn y rhanbarth, a chefnogi buddsoddwyr newydd i wreiddio yn yr ardal, felly cysylltwch â nhw i weld sut gallan nhw helpu eich busnes.

Cysylltwch â’r tîm heddiw ar 01639 686 835 i gael gwybod sut gallwn ni helpu eich busnes, neu anfonwch neges atom ni.

Rydym ni’n falch o’n

Sectorau diwydiant

Welding Worker

Gweithgynhyrchu

Mae gweithgynhyrchu’n cyfrif am ryw 25% o gyfanswm allbwn Castell-nedd Port Talbot, o gymharu â 10% o’r allbwn yn y Deyrnas Unedig a 17% ledled Cymru. Mae’r sector hwn yn cyflawni canlyniadau o’r radd flaenaf yn gyson ym meysydd peirianneg lefel uwch, torri a ffabrigo, dylunio systemau trydanol, gweithgynhyrchu ac ymchwil deunyddiau strwythurol, a pheirianneg fecanyddol a moduron..

Computer code

Technoleg Ddigidol

Cyflogir rhyw 5,000 o bobl yn y sector hwn yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac mae’n elwa’n fawr o bartneriaeth y rhanbarth ym menter Arfordir Rhyngrwyd Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae’r rhaglen fuddsoddi hon yn trawsffurfio’r economi ranbarthol trwy greu seilwaith digidol y genhedlaeth nesaf – gan gynnwys ffibr gigabit a gwelyau profi 5G – a fydd yn rhoi hwb i gynhyrchedd busnesau ac yn helpu i ddenu buddsoddi pellach.

Gwyddorau Bywyd/Technoleg Feddygol

Mae Gwyddorau Bywyd/Technoleg Feddygol yn sector allweddol yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch newydd, treialon clinigol, meddygaeth adnewyddol, diagnosteg, biodechnoleg ac e-iechyd. Mae rhyw 350 o fusnesau’n gweithredu yn y maes hwn, ac yn cyflogi mwy nag 11,000 o bobl. Mae’r rhanbarth yn elwa o gyfleusterau arloesi ac Ymchwil a Datblygu o’r radd flaenaf yn ogystal â chysylltiadau ag un o ysgolion meddygol gorau’r Deyrnas Unedig, sy’n hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr bywyd.

Solar Panels

Ynni Adnewyddadwy

Mae Castell-nedd Port Talbot yng nghanol chwyldro ynni Cymru. Mae gan y rhanbarth gapasiti sydd ymhlith yr uchaf o ran ynni adnewyddadwy (352MW) a’r lefel uchaf o bŵer gwynt a gynhyrchir ar y tir yng Nghymru (230MW). Bydd ein Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy uchelgeisiol a phrosiectau fel Canolfan Dechnoleg y Bae a FLEXIS yn helpu i gyflawni twf economaidd trwy greu’r amgylchedd priodol ar gyfer datblygu technolegau cynaliadwy newydd, o’r gwaith ymchwil i’w cynhyrchu.

Construction Site

Adeiladu

Mae ychydig o dan 10% o’n gweithlu yn gweithio ym maes adeiladu, sydd fymryn yn uwch na chyfartaledd Cymru, 8.2%. Wrth i’r galw gynyddu am gartrefi ac adeiladau cost-effeithiol, cynaliadwy, carbon isel, mae llawer o fusnesau adeiladu ein rhanbarth yn canolbwyntio’u gweithgareddau ar greu cydrannau a systemau arloesol, llesol i’r amgylchedd. Bydd hyn i gyd yn mynd â ni gryn bellter tuag at helpu Castell-nedd Port Talbot a Chymru i gyflawni eu targedau carbon-sero.

Spotlight testing for stage

Creadigol

Mae sector y Diwydiannau Creadigol, un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn cyflogi rhyw 7,500 o bobl yn ei grynswth yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’r rhanbarth yn gartref i gyfoeth o arbenigedd mewn creu ffilmiau, animeiddio a meddalwedd a datblygu cymwysiadau. Mae Da Vinci’s Demons, Bang, Apostle, Doctor Who a The Collection i gyd wedi dod yn fyw yn Stiwdios y Bae ac mewn amrywiol leoliadau ar draws y rhanbarth.

Twristiaeth

Mae atyniadau fel Parc Gwledig Margam, Glan Môr Aberafan a harddwch Gwlad y Sgydau ym Mro Nedd yn denu rhyw 1.6 miliwn o ymwelwyr i’r ardal bob blwyddyn, sy’n golygu bod y sector Twristiaeth yn cyfrannu swm anferth o £120 miliwn y flwyddyn i’r economi leol. Mae’r sector yn cynnal rhyw 1,700 o swyddi amser llawn ar draws ystod amrywiol o rolau ym meysydd llety, atyniadau a’r amgylchedd naturiol.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Ymunwch â’n diweddariadau e-bost i gael y cyfleoedd buddsoddi a’r wybodaeth ddiweddaraf yng Nghastell-nedd Port Talbot. Darllenwch ein polisi preifatrwydd.