A new innovation partnership for the construction, digital, technology, engineering and manufacturing sectors, to facilitate purposeful collaboration and deliver economic benefit to local firms.
Mae CYFNEWIDFA ARLOESEDD CASTELL-NEDD PORT TALBOT yn dod â chwmnïau mawr a bach yn y dirwedd fusnes ranbarthol ynghyd, mewn ysbryd o gydweithredu a phartneriaeth, gyda’r bwriad o gryfhau cwmnïau lleol, mwyafu cyfleoedd economaidd a chreu sector arloesedd cynaliadwy ar gyfer Castell-nedd Port Talbot a’r rhanbarth ehangach. Drwy eich cyfranogiad mewn sgyrsiau a digwyddiadau, bydd aelodau’n cynyddu eich ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd, yn tyfu eich cysylltiadau lleol ac yn cynyddu’ch uchelgeisiau ar gyfer y tymor hir. Drwy gymryd rhan mewn sgyrsiau a digwyddiadau, bydd aelodau’n cynyddu eich ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd, yn tyfu eich cysylltiadau lleol ac yn gwella’ch uchelgeisiau ar gyfer y tymor hir.
Cynhelir Cyfnewidfa Arloesedd CNPT gan 4theRegion mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, ac fe’i hariennir gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU.
Bwriadwn gyflwyno rhaglen i chi sy’n cynnwys trafodaethau rhyngweithiol gyda busnesau lleol ynghylch pynciau, blaenoriaethau a chyfleoedd allweddol. Cofrestrwch drwy Eventbrite, ac e-bostiwch helen@4theregion.org.uk i drafod unrhyw un o’n digwyddiadau sydd ar ddod.
Podlediadau
Digwyddiadau Blaenorol
Os ydych wedi colli unrhyw un o’n digwyddiadau blaenorol, gallwch eu lawrlwytho yma:
Cyfnewidfa Arloesedd CNPT – Digwyddiad Lansio
Pan lansiwyd Cyfnewidfa Arloesedd CNPT, cafodd amrywiaeth o fusnesau gyfle i rannu eu profiadau, eu llwyddiannau a’u heriau diweddar a lleisio’u blaenoriaethau mwyaf i’r prosiect fynd i’r afael â hwy.
ABP a’r Weledigaeth ar gyfer Porthladdoedd y Dyfodol
Gwahoddwyd cwmnïau gweithgynhyrchu a pheirianneg o Gastell-nedd Port Talbot i ddigwyddiad gyda chwmni ABP i glywed am eu gweledigaeth “Porthladdoedd y Dyfodol” ar gyfer Port Talbot, gyda sesiwn Holi ac Ateb yn ei ddilyn.
Cewch glywed gan gwmnïau lleol sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau contractau, gan gynnwys Ynni Morol Cymru a The Offshore Renewable Energy (ORE) Catapult a’u prosiect Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE) yng Nghymru.
Beth yw diben Cyfnewidfa Arloesedd CNPT Castell-nedd Port Talbot?
A new innovation partnership for the construction, digital, technology, engineering and manufacturing sectors, to facilitate purposeful collaboration and deliver economic benefit to local firms.
Cewch glywed gan y Weinyddiaeth Amddiffyn am eu hymrwymiad i gaffael mwy gan gyflenwyr y DU a chanfod sut gall eich busnes fod yn rhan o hyn.
Yn ystod y sesiwn hon, ymunodd y Weinyddiaeth Amddiffyn, Grŵp ADS a DASA â ni i rannu eu profiad gyda chefnogi BBaChau i gael mynediad at gyfleoedd, awgrymiadau a chanllawiau caffael a sut y gall BBaChau gael mynediad at gyfleoedd caffael gyda’r sefydliadau hyn.