Canolfan Dechnoleg TWI (Cymru)

Mae Canolfan Dechnoleg TWI (Cymru) yn arbenigo mewn datblygu a chymhwyso’r dulliau Profi Annistrywiol diweddaraf. Mae’n darparu atebion byd go iawn wedi’u teilwra ar gyfer ystod eang o ddiwydiannau megis awyrofod, petrocemeg, trafnidiaeth ffordd a rheilffordd, ynni a gofal iechyd. Ceir hyd i’w gyfleusterau yn y pentref Ymchwil a Datblygu gwerth miliynau lawer o bunnoedd ym Mharc Busnes Glannau’r Harbwr.

Mae’r technolegau profi yn cynnwys:

  • Profion uwchsain confensiynol a throchi
  • Profion uwchsain lefel uwch
  • Modelu ac efelychu
  • Radiograffeg ddigidol a ffilm
  • Radiograffeg microffocws
  • Tomograffeg gyfrifiadurol
  • Cerrynt trolif, gan gynnwys araeau ceryntau trolif
  • Thermograffi pwls
  • Canfod diffygion dan yr wyneb â laser (shearography)
  • Archwilio geometreg gymhleth â robotiaid ac yn awtomataidd
  • Datblygu meddalwedd gymhwyso unigryw
  • Archwilio cyfansoddion