Fel awdurdod lleol, rydym wedi gweithio’n galed dros y ddau ddegawd diwethaf i arallgyfeirio’r economi leol a buddsoddi mewn adfywio hen safleoedd diwydiannol ac mewn gwelliannau i’r seilwaith cyfagos. O ganlyniad i hyn, ynghyd â buddsoddiad cyhoeddus a phreifat mewn cyfleusterau arloesi ac ymchwil a datblygu a ffurfio partneriaethau gyda’r byd academaidd lleol, mae Castell-nedd Port Talbot bellach yn gartref i nifer o ganolfannau rhagoriaeth. Mae hyn yn golygu y gall busnesau sy’n sefydlu yma fanteisio ar y cyfleoedd sylweddol i drosglwyddo gwybodaeth a chydweithio ar ddatblygu cynnyrch.
Dyma rai o’r Canolfannau Rhagoriaeth Allweddol:
- Y Sefydliad Dur a Metelau (SaMI) – Prifysgol Abertawe
- Sefydiad Ymchwil Peirianneg a Deunyddiau Lefel Uwch (AEMRI) – Glannau’r Harbwr
- Canolfan Ragoriaeth Ymchwil Peirianneg (Wales) – Glannau’r Harbwr
- Canolfan Ragoriaeth Ymchwil Peirianneg – Prifysgol Abertawe (Campws y Bae)
- SPECIFIC: Adeiladau sy’n Bwerdai – Prifysgol Abertawe (Campws y Bae)
- Canolfan Printio a Chaenu Cymru Prifysgol Abertawe (Campws y Bae)
- Canolfan Gweithgynhyrchu Sypiau Lefel Uwch Cymru (CBM) – Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Campws SA1 Abertawe)
- Canolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru – Parc Ynni Baglan
- Systemau Ynni Integredig Hyblyg (FLEXIS) – Prifysgol Caerdydd
- Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) (ESRI) – Prifysgol Abertawe (Campws y Bae)
Castell-nedd Port Talbot hefyd yw’r lleoliad a ddewiswyd ar gyfer prosiect cyffrous Canolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, cyfleuster profi rheilffordd o’r radd flaenaf, a fydd yn darparu gwasanaeth hollbwysig i weithgynhyrchwyr trenau o’r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gweithredwyr rhwydweithiau a’r diwydiant ehangach a’r gadwyn gyflenwi.