Mae dibyniaeth ar ynni brwnt yn bygwth ein ffordd o fyw. Mae cynhesu byd-eang yn arwain at lefelau’r môr yn codi, tywydd eithafol a newid mewn cynefinoedd. Nid her i eraill fynd i’r afael â hi yn y dyfodol yw hon. Mae’n her i ni, yma, nawr.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae ein hanes o ddibynnu ar ddiwydiannau brwnt wedi effeithio ar ansawdd yr aer yma a glendid ein trefi a’n cymunedau. Ond nid yw sefyll o’r neilltu a gwneud dim yn opsiwn bellach.
Felly, rydyn ni’n mentro newid. Yn mentro credu mewn dyfodol glanach. Ac yn mentro gwneud beth sy’n angenrheidiol i wneud gwahaniaeth. Rydyn ni’n gweld yr heriau hyn fel cyfle i newid ein ffordd o fyw a gwella pethau ar gyfer ein rhanbarth a’r blaned.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot rydyn ni wedi gwneud datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy yn ganolog i’n strategaeth datblygu economaidd. Yma, rydyn ni’n adeiladu canolfan arbenigedd mewn technoleg werdd ac ynni clyfar. Rydyn ni’n dod ag academia, y sector cyhoeddus, diwydiant preifat ac asiantaethau ariannu at ei gilydd i ddileu risg atebion datgarboneiddio trwy gynnal arddangosiadau agos at raddfa fasnachol. Bydd hyn i gyd yn dod â swyddi ac yn gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma. Ac yn fwy na hynny, bydd yn helpu i lanhau ac oeri’r blaned.
Cymerwch y prosiect Cartrefi sy’n Bwerdai, er enghraifft. Y nod yma yw cyflwyno cartrefi clyfar, carbon isel, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. Cartrefi sy’n creu ynni yn hytrach na’i ddefnyddio. Mewn partneriaeth â Pobl, prosiect Cartrefi Gweithredol Castell-nedd yw’r datblygiad tai mawr cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddefnyddio cysyniad pŵer solar ‘Adeiladau Gweithredol’. Ond cychwyn yn unig yw hyn. Bydd y Ganolfan Adeiladau Gweithredol ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe yn mynd â thechnoleg a syniadau newydd i’r farchnad.
Ein bwriad yw bod DARE yn dod yn ddatblygiad amlwg i fusnesau yn y sectorau ynni, amgylchedd a thechnoleg lân, gan eu herio i dyfu gyda ni a’u hannog i brofi eu cysyniadau a gwreiddio’u busnesau yma. Os ydych chi’n awyddus i dyfu eich busnes yn y sectorau hyn, cewch hyd i bartneriaid parod ac arbenigedd yma yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mentrau eraill DARE:
- FLEXIS – Ynni clyfar ar gyfer ein dyfodol
- Canolfan Ymchwil Tyrbinau Nwy
- Gwaith Biomas Port Talbot
- Gwaith Ynni Gwyrdd Margam
- Canolfan Dechnoleg y Bae
- Cymru H2 Wales
Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy Castell-nedd Port Talbot