Lle i gysylltu

Cysylltiadau da ar gyfer busnes

Mae gan Gastell-nedd Port Talbot gysylltiadau da ar gyfer busnes ym marchnadoedd allweddol y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Mae ei lleoliad, funudau’n unig o’r M4, yn darparu cysylltiad uniongyrchol â Llundain a De-ddwyrain Lloegr, tra bod yr A465, ffordd Blaenau’r Cymoedd, yn darparu llwybr effeithlon i Ganolbarth Lloegr a’r Gogledd ar hyd yr M50, yr M5 a’r M6.

Gwasanaethir y fwrdeistref gan 2 orsaf reilffordd sydd fel ei gilydd ar y brif lein i Lundain Paddington, ac yn cynnig gwasanaethau cyflym, rheolaidd i brifddinas Lloegr a’r tu hwnt.

Gellir gyrru i Faes Awyr Caerdydd mewn 40 munud, ac mae’n cynnig cyfle i hedfan yn uniongyrchol i fwy na 50 o gyrchfannau, gyda mwy na 900 o gysylltiadau trwy brif ganolbwyntiau Amsterdam Schiphol (via KLM) a Doha (via Qatar Airways). Mae Maes Awyr Bryste yn cynnig gwasanaethau uniongyrchol a amserlennwyd i nifer o gyrchfannau yn y Deyrnas Unedig a thramor, ac mae Llundain Heathrow, prif faes awyr y Deyrnas Unedig, ryw 2½-awr i ffwrdd mewn car.

Ar gyfer symud nwyddau mawr neu drwm, Harbwr Llanw Port Talbot sy’n cynnig y cyfleusterau docio dyfnaf yn Aber Hafren, ac mae’n gallu derbyn llongau maint penrhyn hyd at 170,000 dwt. Mae ardal y doc mewnol yn gallu darparu ar gyfer llongau llai sy’n codi llwythau trymion, llongau prosiect a llongau nwyddau cyffredinol.

AMSERAU TEITHIO (AR Y FFORDD)
Abertawe20 munud
Caerdydd40 munud
Maes Awyr Caerdydd45 munud
Bryste1 awr 15 munud
Maes Awyr Bryste1 awr 30 munud
Birmingham2 awr 40 munud
Maes Awyr Llundain Heathrow2 awr 45 munud
Llundain3 awr 20 munud
Manceinion3 awr 55 munud
AMSERAU TEITHIO (AR Y FFORDD)
Abertawe20 munud
Caerdydd Canolog35 munud
Parcffordd Bryste1 awr 10 munud
Llundain Paddington2 awr 30 munud