Sefydlwyd Keytree yn 2006, ac mae’n ymgynghoriaeth dylunio a thechnoleg gyda rhyw 400 o staff yn gweithio mewn swyddfeydd ar draws y byd. Rhan bwysig o’u busnes yw gweithredu SAP a datrysiadau meddalwedd busnes. Yn ddiweddar, daeth yn rhan o grŵp cwmnïau Deloitte.
Ar hyn o bryd mae Keytree yn cyflogi rhyw 40 o staff ar ei safle ym Mhort Talbot. Gyda hanes o benodi pobl leol ddawnus, mae’n ymroddedig i fod yn rhan o wead y gymuned.
Ar ôl bod yn yr ardal am fwy na 4 blynedd, symudodd y cwmni yn ddiweddar i safle mwy. Cafwyd hyd i’w ganolfan newydd, yn Llys Ynadon Port Talbot gynt, gan y Tîm Datblygu Economaidd yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, a fu wedyn yn gweithio gyda Keytree i’w drawsffurfio’n Ganolfan Gwasanaethau a Reolir gyda’r cyfleusterau diweddaraf.
Cyfeiriodd Martin McNamara, Rheolwr Marchnata Keytree, at leoliad canolog Port Talbot fel un o’r prif resymau dros ddewis lleoli yn yr ardal.