Mae Paragon yn cynnig gwasanaeth dylunio, cyflenwi a gosod ar gyfer eu cyplau to, eu huniadau sbandrel a’u systemau trawstiau llawr i bob sector o’r diwydiant adeiladu, o gwmnïau sy’n adeiladu niferoedd mawr o dai yn y Deyrnas Unedig i adeiladwyr lleol. Cewch hyd iddynt ym Mharc Busnes Resolfen, ond mae eu cwsmeriaid ar led o Sir Benfro yn y gorllewin ac ar hyd yr M4 i Swindon yn y dwyrain.
Er mai ers llai na 3 blynedd y bu’n masnachu, mae’r fenter BaCh hon eisoes wedi datblygu rhestr drawiadol o gleientiaid, gan gynnwys adeiladwyr tai adnabyddus fel Persimmon Homes, Bellway, St Modwen ac Edenstone. Mae’r cwmni wedi ehangu mor gyflym nes tyfu allan o’u huned gyntaf ar y parc busnes eisoes, ac maent wedi darparu capasiti ychwanegol trwy brydlesu ail uned. Ar hyn o bryd, mae eu llyfr archebion yn dangos eu bod wedi sicrhau gwaith ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.
Ym marn Ian Ferris, Cyfarwyddwr i Paragon, mae cefnogaeth fusnes neilltuol Cyngor Castell-nedd Port Talbot i’r cwmni ers y diwrnod cyntaf wedi bod yn allweddol i’w twf cyflym.