Funudau’n unig o gyffyrdd 41 a 42 ar yr M4, mae Parc Ynni Baglan wedi dod yn un o brif leoliadau busnes a diwydiannol Cymru. Mae’r parc, sy’n 180 erw, yn helpu i drawsffurfio’r ardal, sicrhau dyfodol diwydiannol gwyrdd (mae wedi ennill gwobrau am ei arferion adfywio a chynaliadwyedd) a chreu miloedd o gyfleoedd am swyddi.
Mae’r parc wedi dod yn gartref i Ganolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru, canolfan ymchwil ac arddangos hydrogen gyntaf Cymru, Canolfan Arloesi Bae Baglan, ac yn fwyaf diweddar, Canolfan Dechnoleg y Bae. Mae hwn yn adeilad hybrid positif o ran ynni a fydd yn darparu ystod o le hyblyg ar gyfer swyddfeydd a labordai i fusnesau newydd sbon a rhai sydd eisoes yn bodoli, gyda ffocws ar y sectorau Technoleg ac Arloesedd ac Ymchwil a Datblygu.
Ymhlith y busnesau eraill yn y parc mae Ecolab, Intertissue, Montagne Jeunesse, RWE Renewables, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.