Mae Caeniadau Metel Armadillo, y ceir hyd iddynt yng Nghanolfan Arloesi Bae Baglan, yn arloeswyr mewn oes newydd o amddiffyn rhag cyrydu a tharneisio. Mae eu technoleg dan batent yn rhoi amddiffyniad hirhoedlog trwy ddefnyddio atalyddion cyrydu rhyddhau clyfar.
Mae’r cwmni’n un o is-fentrau Prifysgol Abertawe ac yn ganlyniad prosiect ymchwil 4-blynedd gyda’r Bathdy Brenhinol, a oedd yn chwilio am dechnoleg gwrth-darneisio/gwrth-gyrydu. Eu hateb i hynny yw proses nanodechnoleg gollwng i mewn, a chyda chymorth Innovate UK ac ymchwil ryngwladol, mae’r cwmni wedi canfod cymwysiadau newydd ar gyfer eu technoleg chwyldroadol.
I helpu Armadillo i dyfu, bu Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithio gyda’r cwmni i ganfod safle addas. Mae John Luckett, Rheolwr Technoleg, yn teimlo bod Canolfan Arloesi Bae Baglan yn berffaith ar gyfer eu hanghenion ac yn faint delfrydol ar gyfer cyfnod presennol eu datblygiad.