Mae Call of the Wild yn cyflwyno rhaglenni datblygu personol, tîm a rheolwyr arobryn, seiliedig ar ymchwil, i ystod o gwmnïau sector cyhoeddus a phreifat ar draws y Deyrnas Unedig. Mae wedi gweithio gyda rhai o enwau mwyaf y Deyrnas Unedig, gan gynnwys John Lewis, Banc Barclays a Babcock International.
Mae canolfan hyfforddi Call of the Wild ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac roedd harddwch yr ardal o amgylch yn ffactor o bwys wrth annog sylfaenwyr y cwmni i ddychwelyd i’r ardal i sefydlu’r busnes.
Mae Mark Soanes, un o Gyfarwyddwyr Call of the Wild, yn credu y gellid denu mwy o bobl a busnesau i’r ardal wrth i fyd gwaith newid.