Collocco Consultancy Ltd

Collocco Consultancy Ltd

Busnes

Sector

Lleoliad

Gwasanaethau Cefnogi CNPT

Mae Collocco Consultancy yn cynnig arbenigedd Ansawdd, Technegol a Rheoleiddiol i gwmnïau yn y sector Dyfeisiau Meddygol a Gwyddorau Bywyd er mwyn sicrhau bod y dyfeisiau a gaiff eu cyflwyno i’r farchnad yn ddiogel ac y byddant yn parhau i gydymffurfio â’r rheoliadau drwy gydol eu cylchoedd oes. Gyda’i gilydd, mae gan y tîm bach o ymgynghorwyr, a leolir yng Nghanolfan Arloesi Bae Baglan, fwy na 40 mlynedd o brofiad uniongyrchol yn y maes.

Mae’r dirwedd reoleiddiol yn newid yn gyson, ac mae sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheoliadau diweddaraf yn gallu bod yn heriol i lawer o gwmnïau a mynd â llawer o’u hamser. Dyma ble y gall Collocco Consultancy fod o gymorth. Yn y pum mlynedd ers i’r cwmni gael ei sefydlu, mae wedi datblygu portffolio sylweddol o gleientiaid yn y DU gan gynnwys Eakin Surgical, Huntleigh Healthcare, Laprosurge a Pelican Health, yn ogystal â’r cwmnïau rhyngwladol Becton Dickinson a Stryker.

Gwelodd Jill Rosser, sef Cyfarwyddwr y Cwmni, fod bwlch yn y farchnad ar gyfer cymorth Ansawdd, Technegol a Rheoleiddiol o safon a bod Castell-nedd Port Talbot yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer partneriaethau proffesiynol a phartneriaethau busnes.

“Yn sgil buddsoddiad yn y prifysgolion lleol ac ym Mharc Ynni Bae Baglan, roeddem yn teimlo mai hwn oedd y lleoliad delfrydol i leoli ein busnes a hyrwyddo Castell-nedd Port Talbot fel canolbwynt ar gyfer y sector Gwyddorau Bywyd.” (192)

(192)

Y Fantais Ranbarthol