Hexigone Inhibitors

Cyrydu cynaliadwy, clyfar a hynod effeithiol

Hexigone Inhibitors

Busnes

Gweithgynhyrchydd Atalyddion Cyrydu

Sector

Lleoliad

Port Talbot

Gwasanaethau Cefnogi CNPT

Cymorth Busnes

Mae Hexigone Inhibitors yn rhan o Barc Ynni Baglan ym Mhort Talbot. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn atalyddion cyrydu diogel, clyfar ac eithriadol effeithiol. Gan fanteisio ar ddeddfwriaeth ddiweddar yr UE, mae eu cynnyrch yn ddiwenwyn, nid yw’n cynnwys cromad, a phrofwyd yn annibynnol ei fod hyd at 10 gwaith yn fwy effeithiol na phrif ddewisiadau amgen y farchnad.

Mae gwreiddiau’r cwmni yn y rhanbarth, gan fod y dechnoleg yn wreiddiol wedi’i datblygu gan Brif Swyddog Gweithredol y cwmni, Dr Patrick Dodds mewn cydweithrediad â TATA Steel a Phrifysgol Abertawe. Fodd bynnag, mae potensial byd-eang i’w gynnyrch, ac o ganlyniad mae’r rhwydwaith cefnogi yng Nghymru – ac yn arbennig yng Nghastell-nedd Port Talbot – yn hanfodol i sicrhau bod y cwmni’n aros yno.

Mae Giorgia Cacace, Prif Swyddog Gweithrediadau Hexigone, yn gwerthfawrogi’r help, y cymorth a’r anogaeth mae’r cwmni wedi’u derbyn gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a rhwydwaith cefnogi ehangach Cymru.

“There is increasing evidence that the Welsh Government truly values innovation and we have benefited from both a local and national network of support. We’ve been spoiled by the level of support we have received from Neath Port Talbot Council.”

Giorgia Cacace

COO

Y Fantais Ranbarthol

Mae gweithgynhyrchu’n cyfrif am ryw 25% o’r cyfanswm allbwn, o gymharu â 10% yn y Deyrnas Unedig a 17% yng Nghymru. Mae 19.1% o’r boblogaeth waith leol yn gysylltiedig â gweithgynhyrchu, mwy na dwbl cyfartaledd y Deyrnas Unedig.

Mae Castell-nedd Port Talbot yn gartref i waith cynhyrchu dur integredig Tata Steel, cynhyrchydd dur gwreiddiol mwyaf y Deyrnas Unedig, sy’n gallu cynhyrchu bron 5 miliwn o dunelli o slabiau dur y flwyddyn.

Siaradwch ag arbenigwr rhanbarthol i archwilio’r cyfleoedd ar gyfer eich busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot.

(01639) 686 835