Mae Quicklink wedi derbyn Gwobr Emmy a Gwobr y Frenhines am Arloesedd. Mae’r cwmni yn cyflenwi datrysiadau IP meddalwedd a chaledwedd i fwy na 800 o sefydliadau ar gyfer darlledu fideo byw ac wedi’i olygu, ac maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth â rhai o enwau mwyaf y byd ym maes technoleg, gan gynnwys Microsoft a Panasonic.
Mae cyfleuster cydosod y cwmni yn rhan o Gampws Stiwdio’r Bae. Mae Quicklink wedi elwa’n fawr o’r newid i gyfarfodydd ar-lein a achoswyd gan bandemig COVID, ac maen nhw bellach yn gwerthu eu technoleg ar draws y byd.
Mae Richard Rees, Prif Swyddog Gweithredol Quicklink, o’r farn bod y gefnogaeth a gawson nhw gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn nyddiau cynnar y busnes yn hanfodol i’w helpu i gyrraedd man lle cynyddodd y galw am eu technoleg yn y farchnad yn aruthrol.