Mae TWI (sy’n sefyll am y Sefydliad Weldio) yn sefydliad seiliedig ar aelodaeth sy’n darparu gwasanaethau ymgynghoriaeth i’r aelodau ym meysydd deunyddiau a thechnolegau uno. Mae Canolfan Dechnoleg TWI yng Nghymru yn gweithio’n benodol ym maes Profion Annistrywiol ar gyfer strwythurau critigol, megis gorsafoedd pŵer niwclear, awyrennau, llongau tanfor a llwyfannau olew.
Mae’r cyfleuster archwilio a dilys ym Mharc Busnes Glannau’r Harbwr, funudau o’r M4, sydd â’r cyfleusterau diweddaraf, yn golygu ei fod yn hawdd i’r cwmni wasanaethu anghenion ei bartneriaid diwydiannol ledled Cymru a De-orllewin Lloegr. A chan ei fod yn ymyl gorsaf reilffordd Parcffordd Port Talbot ar y brif lein, mae modd i gleientiaid rhyngwladol hedfan i mewn i Lundain o unrhyw le yn y byd, a chyrraedd y ganolfan ymhen 2½ awr.
Ond mae’r Rheolwr Rhanbarthol Philip Wallace yn cydnabod bod y penderfyniad i leoli’r ganolfan yng Nghastell-nedd Port Talbot yn gwneud mwy nag ymateb i ofynion eu cleientiaid.