Cartrefi yn Orsafoedd Pwer

Bydd technolegau dylunio ac effeithlonrwydd ynni o’r radd flaenaf yn cael eu cyflwyno i filoedd o eiddo fel rhan o’r prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Nod y prosiect arloesol yw hwyluso’r gwaith o fabwysiadu’r dull Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer i integreiddio prosesau dylunio sy’n effeithlonrwydd o ran ynni a thechnolegau adnewyddadwy yn y gwaith o ddatblygu cartrefi newydd a rhaglenni ôl-ffitio a gynhelir gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Bydd hyn yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd, gan helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni.

Nod y prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yw profi’r cysyniad yn y sector cyhoeddus ar raddfa gymharol fach gyda’r bwriad o gynyddu gweithgarwch mewn sectorau eraill ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Bydd y rhain yn cynnwys datblygwyr yn y sector preifat.

Nod Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yw:

  • • Hwyluso’r defnydd o dechnolegau adnewyddadwy mewn o leiaf 10,300 eiddo (7,000 wedi’u hôl-ffitio, 3,300 o adeiladau newydd) o fewn pum mlynedd i gynyddu cynhesrwydd fforddiadwy a lleihau tlodi tanwydd.
  • Gwella iechyd a llesiant preswylwyr.
  • Lleihau’r baich ar wasanaethau cymdeithasol ac iechyd.

Bydd y prosiect yn gysylltiedig â rhaglenni gwella tai eraill er mwyn sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posibl o ran cyflawni’r rhaglenni. Mae’r rhain yn cynnwys y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio gan Lywodraeth Cymru sy’n rhan o’r Rhaglen Tai Arloesol, a fydd yn lleihau ôl troed carbon tai cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Bydd ffocws ar ddatblygu cadwyn gyflenwi gynaliadwy ranbarthol, monitro a gwerthuso, datblygu sgiliau, rhaglen addysg a lledaenu, a chynllun cymhelliant ariannol. Bydd y prosiect yn rhannu ei ganfyddiadau drwy ganolfan rhannu gwybodaeth.

Bydd prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn creu swyddi medrus yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe, gan brif-ffrydio’r cysyniad o’i gyflwyno mewn mannau eraill yng Nghymru a’r DU.

Am fwy o wybodaeth ar y prosiect HAPS, cysylltwch a Oonagh Gavigan neu Richard Lewis ar HAPS@npt.gov.uk

Statws: Achos busnes wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.