Canolfan Arloesi Bae Baglan

Gofod swyddfa a labordy modern o safon uchel i’w rentu

Parc Ynni Baglan, Port Talbot, SA12 7AX

Mae Canolfan Arloesi Bae Baglan yn canolbwyntio ar arloesedd mewn amrywiaeth o sectorau diwydiannol, gan gynnwys ynni, digidol, gwyddorau bywyd ac ymchwil a datblygu.

Mae’r canlynol i’w cael yn y ganolfan:

▪ Swyddfeydd sy’n amrywio o 344 i 936 troedfedd sgwâr, ar bedwar llawr

▪ 5 uned labordy sy’n amrywio o 377 i 936 troedfedd sgwâr, ar Lefel Bioddiogelwch 1 o leiaf

▪ Gofod cynadledda ac ystafell gyfarfod

▪ Cyfleoedd i gael cymorth a chyllid i fusnesau (yn amodol ar gymhwysedd) er mwyn eich helpu i ddechrau gweithredu a/neu ddodrefnu labordai

▪ Lleoedd parcio ar y safle (gan gynnwys mannau gwefru cerbydau trydan a mannau storio beiciau)

* Cysylltedd band eang gwibgyswllt

▪ Agosrwydd at academia ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

▪ Cegin gyffredin a chyfleusterau cawod.

Mae’n cynnig cysylltiadau trafnidiaeth gwych, gan ei bod ond ychydig funudau i ffwrdd o’r M4 ac o fewn cyrraedd hawdd i orsaf drenau Parcffordd Port Talbot, gyda chysylltiadau uniongyrchol ag Abertawe, Caerdydd a Llundain.

Mae gan Dîm Datblygu Economaidd Cyngor Castell-nedd Port Talbot hanes heb ei ail o helpu buddsoddwyr a busnesau i wireddu eu huchelgeisiau ar gyfer datblygu a thyfu yn y rhanbarth. Gadewch i ni wneud yr un peth ar eich cyfer chi. Gadewch i ni wneud yr un peth i chi.

RHENT – £10 FESUL TROEDFEDD SGWÂR A THÂL GWASANAETH O £6.50 FESUL TROEDFEDD SGWÂR