Cynllun Cymorth Arbenigwyr Hidrigen

May 27, 2025

Roeddem yn falch o gael cynnal digwyddiad rhwydweithio’r Rhaglen Cymorth Arbenigol Hydrogen fis diwethaf mewn cydweithrediad ag Opergy Energy yng Ngwesty a Sba’r Towers. 

Roedd y digwyddiad hwn, a gynhaliwyd gan Opergy Energy yng Ngwesty a Sba’r Towers, yn foment allweddol i fwy nag 20 o fusnesau lleol a chenedlaethol. Cafodd pawb a oedd yn bresennol wybodaeth amhrisiadwy am brosiectau a chyfleoedd sydd i ddod yn ardal Bae Abertawe, gan gynnwys manylion am y Fenter Cymorth Hydrogen.

Rhoddodd Andy Holyland, Rheolwr-gyfarwyddwr Opergy Net Zero, gyflwyniad cyfareddol ar y cymorth wedi’i deilwra sydd ar gael er mwyn ysgogi busnesau i drawsnewid, arallgyfeirio a thyfu yn y sector hydrogen a thanwyddau’r genhedlaeth nesaf sy’n datblygu.

P’un a ydych chi’n gwmni sydd wedi ennill ei blwyf neu’n awyddus i archwilio posibiliadau newydd, mae ein cymorth wedi’i ddylunio i’ch helpu i ganfod eich ffordd a ffynnu yn y farchnad hydrogen sy’n datblygu.

Gwnaeth y rhai a oedd yn bresennol achub ar y cyfle i rwydweithio â busnesau lleol ac amlwladol dylanwadol eraill.

Isod mae rhai fideos byr o’r hyn oedd gan gwmnïau lleol i’w ddweud am y digwyddiad.