Deg mantais fawr cynnig llwyddiannus am Borthladd Rhydd Celtaidd

January 11, 2023

Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd arfaethedig yn brosiect newydd, cyffrous, sy’n addo adfywiad diwydiannol yn ne-orllewin Cymru sy’n creu 16,000 o swyddi newydd a £5.5 biliwn o fewnfuddsoddiad newydd, bob yn seiliedig ar ynni gwyrdd.

Bydd Llywodraethau Cymru a’r DU yn enwi’r cynigiwr llwyddiannus yn y ras i fod yn gartref i borthladd rhydd cyntaf Cymru yn gynnar yn 2023.

Nod cynnig y Porthladd Rhydd Celtaidd yw creu coridor buddsoddi ac arloesi gwyrdd ym mhorthladdoedd Porth Talbot ac Aberdaugleddau, lle y bydd datblygiadau ynni glân, terfynellau tanwydd, gorsaf bŵer ac arloesiadau tanwydd hydrogen yn ffynnu.

Felly, dyma ddeg fantais fawr y Porthladd Rhydd Celtaidd:

• Creu 16,000 o swyddi gwyrdd newydd, o ansawdd uchel

• Cyfleoedd sgiliau gwyrdd i genedlaethau’r dyfodol. O weldwyr i wyddonwyr data, bydd y rhain yn swyddi hirdymor â chyflog da, gydag arferion gwaith teg a gweithleoedd cynhwysol wrth eu gwraidd.

• Adeiladu dau borthladd ynni gwyrdd estynedig i ddatgloi’r diwydiant ynni gwynt alltraeth arnofiol (FLOW), o weithgynhyrchu, gosod a chynnal a chadw.

• Rhoi mantais ‘cyflwynydd cyntaf byd-eang’ i Gymru o safbwynt y math newydd hwn o ynni dibynadwy, glân, gyda chyfleoedd cadwyn gyflenwi ac allforio cryfach.

• Helpu i ailosod diwydiant dur Cymru trwy annog datblygiad y cyfle FLOW enfawr a defnyddio dur a wnaed ym Mhort Talbot.

• Gwella’n sylweddol ddengarwch de-orllewin Cymru a denu £5.5 biliwn o fewnfuddsoddiad mewn technolegau gwyrdd, modern.

• Datgarboneiddio prif glwstwr diwydiannol Cymru a gwneud cyfraniad mawr tuag at dargedau allyriadau carbon sero net cenedlaethol.

• Hybu arloesedd mewn technolegau ynni glân eraill fel ynni tonnau a morol, hydrogen a thanwyddau cynaliadwy eraill.

• Gwella’r cyflenwad ynni domestig a’i sicrwydd.

• Ac, yn holl bwysig, creu sianel gwaddol lleol i fuddsoddi mewn sgiliau’r dyfodol, arloesedd a phrosiectau lleol trwy gronfa £500 miliwn pwrpasol.

Cefnogir y Porthladd Rhydd Celtaidd gan gonsortiwm cyhoeddus-breifat, y mae ei bartneriaid yn cynnwys Cymdeithas Porthladdoedd Prydain (ABP), Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau, ochr yn ochr â llawer o bartneriaid cyhoeddus, preifat, academaidd a chymdeithasol eraill.

Meddai Roger Maggs MBE, Cadeirydd y consortiwm: “Gyda’i gilydd, mae’r chwaraewyr allweddol hyn yn cyfuno i greu cynnig cymhellol am borthladd rhydd amlbwrpas, integredig i Gymru.

“Mae consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd yn darparu mynediad at ôl troed datblygu enfawr, gweithlu medrus a rhwydwaith o bartneriaid lleol, rhanbarthol a byd-eang sydd â’r gallu i alluogi twf cyflym y sector gwynt alltraeth arnofiol ac economi hydrogen sy’n ffynnu yng Nghymru.

“Gallai hyn adfywio economïau de a gorllewin Cymru a thu hwnt yn llwyr a gallai rhagolygon am allforio technolegau gwynt arnofiol a thechnolegau gwyrdd eraill a ddatblygwyd yma ychwanegu at yr effaith weddnewidiol hon.”