Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn nodi sut mae gwefan Buddsoddi yng Nghastell-nedd Port Talbot yn defnyddio eich gwybodaeth a’r hawliau sydd gennych mewn perthynas â Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data 2016.

Pwy ydym ni?

Mae gwefan a brand Buddsoddi yng Nghastell-nedd Port Talbot ym mherchnogaeth ac o dan reolaeth y Tîm Datblygu Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) yn gweithredu fel Rheolydd Data ar gyfer y data personol mae Tîm Datblygu Economaidd CBSCNPT (sy’n gyfrifol am hyrwyddo Buddsoddi yng Nghastell-nedd Port Talbot) yn ei gadw amdanoch chi.

Yr wybodaeth bersonol rydym ni’n ei chadw amdanoch

Os byddwch chi’n ymuno â’n rhestr bostio trwy lenwi ffurflen ymuno ar www.investinneathporttalbot.com byddwn ni’n gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

  • Cyfeiriad e-bost (gofynnol)
  • Enw Cyswllt (gofynnol)
  • Enw’r Busnes (dewisol)
  • Cyfeiriad y Busnes (dewisol)
  • Disgrifiad o’r Busnes (dewisol)
  • Nifer y cyflogeion (dewisol)
  • Statws y Cwmni (dewisol)

Sut byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth

Os byddwch chi’n ymuno â’n rhestr bostio trwy lenwi ffurflen ymuno ar www.investinneathporttalbot.com byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud y canlynol:

Anfon llythyr newyddion Buddsoddi yng Nghastell-nedd Port Talbot yn achlysurol i’r cyfeiriad e-bost a roesoch i ni.

Anfon gwybodaeth atoch am newyddion, digwyddiadau neu eitemau hyrwyddo rydym ni’n teimlo fyddai o ddiddordeb i chi.

Gallwch adael y rhestr bostio ar unrhyw adeg trwy glicio ar y ddolen berthnasol mewn unrhyw e-bost a gewch oddi wrthym, neu gallwch anfon e-bost atom ni yn business@npt.gov.uk neu gysylltu â’r Tîm Datblygu Economaidd dros y ffôn ar 01639 686835.

Byddwn ni’n defnyddio eich cyfeiriad e-bost personol i anfon gwybodaeth atoch chi, fel y nodir uchod.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth ac am ba hyd byddwn ni’n ei chadw

Y sail gyfreithiol sydd gennym ar gyfer prosesu eich data personol yw eich cydsyniad.

Byddwch wedi mynegi’r cydsyniad hwn trwy ddethol blychau ticio perthnasol ar www.investinneathporttalbot.com wrth ymuno â’n cronfa ddata.

Bydd y data rydych wedi’i ddarparu wrth ymuno â’n cronfa ddata yn cael ei storio yng nghronfa ddata ddiogel ein system bostio am 2 flynedd, ac wedi hynny byddwn ni’n cysylltu â chi ynghylch diweddaru eich data yn y gronfa neu ei ddileu. Fel arall, gallwch ddewis tynnu’n ôl ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio’r manylion uchod i gysylltu â ni.

Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth

Dylech wybod bod unigolion yn cael yr hawliau canlynol yng nghyswllt eu data personol o dan GDPR:

  • Hawl mynediad at eu data personol a gedwir gan reolydd data.
  • Hawl i gael data anghywir wedi’i gywiro gan reolydd data.
  • Hawl i gael dileu eu data (o dan rai amgylchiadau cyfyngedig).
  • Hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolydd data (o dan rai amgylchiadau cyfyngedig).
  • Hawl i wrthwynebu defnydd o’u data ar gyfer marchnata uniongyrchol.
  • Hawl i ddata cludadwy (h.y. trosglwyddo data’n electronig i reolydd data arall).

Mae gennych hawl i gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth am unrhyw achos o dorri eich hawliau diogelu data. Mae manylion ynghylch sut gallwch chi wneud hynny ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth www.ico.org.uk

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar gael o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: www.ico.org.uk.

Sut mae cysylltu â ni

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am sut mae CBSCNPT yn defnyddio eich gwybodaeth, neu os hoffech gysylltu â ni i gwyno am y defnydd o’ch gwybodaeth, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data CBSCNPT yn y cyfeiriad canlynol:

Y Swyddog Diogelu Data
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Y Ganolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ