Telerau ac Amodau

Cyffredinol

Mae gwefan Buddsoddi yng Nghastell-nedd Port Talbot yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn cael ei chynnal a’i chadw i’w defnyddio a’i darllen at ddibenion personol.

Drwy gyrchu a defnyddio gwefan Buddsoddi yng Nghastell-nedd Port Talbot sy’n cynnwys y telerau a’r amodau hyn byddwch chi (y Defnyddiwr) yn derbyn y telerau a’r amodau hyn a byddant yn dod i rym ar y dyddiad y defnyddiwch y Wefan hon am y tro cyntaf. Rydym yn cadw’r hawl i ddiwygio’r telerau a’r amodau hyn ar unrhyw adeg a heb rybudd. Os bydd diwygiadau, caiff y telerau a’r amodau diwygiedig eu harddangos ar y tudalennau hyn a bydd parhau i ddefnyddio gwefan Buddsoddi yng Nghastell-nedd Port Talbot ar ôl i’r newidiadau hyn ddigwydd yn golygu eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau diwygiedig.

Yn unol â Safonau’r Gymraeg a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2016, mae’r holl gynnwys rydyn ni’n uniongyrchol gyfrifol amdano yn cael ei gyhoeddi’n ddwyieithog. Mae’r gwefannau allanol rydyn ni’n cysylltu â nhw yn gyfrifol am gydymffurfio â’u Cynllun Iaith Gymraeg eu hunain, os oes un ganddynt, neu â Safonau’r Gymraeg.

Ymwelwyr â’n Gwefannau

Pan fydd rhywun yn ymweld â gwefan www.investinneathporttalbot.com neu un o’r safleoedd rydyn ni’n eu lletya, cedwir log awtomatig y gellir ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth a manylion am batrymau ymddygiad ymwelwyr. Gwneir hynny i gael gwybodaeth am nifer yr ymwelwyr â’r gwahanol rannau o’r wefan. Cesglir yr wybodaeth hon mewn ffordd sy’n cadw pawb yn ddienw. Ni wneir unrhyw ymgais i ddarganfod pwy sy’n ymweld â’n gwefannau. Ni chysylltir unrhyw ddata a gesglir o’r wefan hon â gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod rhywun o unrhyw ffynhonnell. Os byddwn am gasglu gwybodaeth sy’n fodd i adnabod unigolion drwy ein gwefan, byddwn yn dweud hynny wrthych. Byddwn yn egluro hynny pan gasglwn yr wybodaeth bersonol ac yn egluro beth y bwriadwn ei wneud â hi.

Pan fydd ein gwefan yn ymgorffori nodweddion o sefydliadau eraill, er enghraifft, Google neu Facebook, nodwch fod yr wybodaeth am eich ymweliad yn cael ei phrosesu a’i storio ar eu gweinyddion nhw ac nid ar ein rhai ni. Er enghraifft, os byddwch yn gwasgu’r botwm “hoffi” sy’n rhan o Facebook, neu’n defnyddio cyfleuster sylwadau Facebook, bydd cofnod o’r wybodaeth honno’n cael ei gadw gan Facebook ac nid gan CBSCNPT.

Cwcis

Beth yw Cwci?

Ffeiliau testun yw cwcis sy’n cynnwys darnau bach o wybodaeth a gaiff eu lawrlwytho ar eich dyfais pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Ar bob ymweliad dilynol, caiff y cwcis eu hanfon yn ôl i’r wefan wreiddiol neu i wefan arall sy’n adnabod y cwci hwnnw. Mae cwcis yn ddefnyddiol am eu bod nhw’n caniatáu i wefan adnabod dyfais y defnyddiwr.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gwcis trwy fynd i:

www.allaboutcookies.org neu www.youronlinechoices.eu

Mae cwcis yn gwneud nifer o dasgau gwahanol, gan ganiatáu i chi symud yn hwylus rhwng tudalennau, cofio eich dewisiadau, a gwella’r profiad yn gyffredinol i ddefnyddwyr. Gallan nhw helpu hefyd i sicrhau bod yr hysbysebion a welwch ar-lein yn fwy perthnasol i chi ac i’ch diddordebau.

Gallwch ddileu ac atal yr holl gwcis o’r wefan hon, ond ni fydd rhannau o’r wefan yn gweithio wedyn. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu i chi reoli’r rhan fwyaf o gwcis trwy osodiadau’r porwr.

Cwcis a ddefnyddir ar ein Safle

Rydyn ni’n defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio’r safle hwn. Rydyn ni’n gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn ymateb i anghenion ei ddefnyddwyr ac i ddeall sut gallen ni wella. Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am ba dudalennau rydych chi’n ymweld â nhw, faint o amser rydych chi ar y safle, sut cyrhaeddoch chi yma, ac ar beth rydych chi’n clicio. Does dim modd defnyddio’r wybodaeth hon i’ch adnabod, a dydyn ni ddim yn caniatáu i Google ddefnyddio eich data dadansoddol. I ddewis peidio â chael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan, ewch i

http://tools.google.com/dlpage/gaoptout

Ymwadiad

Darperir gwefan Buddsoddi yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r deunyddiau sy’n ymwneud â gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) ‘fel y maent’ heb wneud na sylw na chadarnhad na rhoi gwarant o unrhyw fath, boed yn benodol neu’n ddealledig, gan gynnwys y gwarantau dealledig o ran ansawdd boddhaol, addasrwydd i ddiben penodol, cydymffurfiaeth, cytunedd, diogeledd a chywirdeb, ond heb ei gyfyngu i hynny. Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau sy’n rhan o’r deunyddiau ar y wefan hon yn ddidoriad nac yn ddi-wall, y bydd diffygion yn cael eu cywiro ac y bydd y wefan, a’r gweinydd sy’n ei darparu, yn ddi-feirws ac yn cynrychioli nodweddion, cywirdeb a dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn yn atebol, o dan unrhyw amgylchiadau, am golled neu ddifrod gan gynnwys y canlynol, ond heb ei gyfyngu i hynny: colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy’n deillio o ddefnyddio neu fethu â defnyddio data, neu elw sy’n deillio o ddefnyddio gwefan Buddsoddi yng Nghastell-nedd Port Talbot neu mewn cysylltiad â hi.

Dolenni i Wefannau Eraill

Er hwylustod i chi, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod dolenni hyperdestun o’r wefan hon i wefannau eraill a ddarperir gan endidau eraill yn berthnasol ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol.

Os byddwch yn mynd i’r gwefannau cysylltiedig hyn, byddwch yn gadael gwefan Buddsoddi yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yn gwneud hynny ar eich menter eich hun: eich cyfrifoldeb chi fydd cymryd unrhyw gamau angenrheidiol i’ch amddiffyn rhag firysau a/neu gyrff dinistriol/llygrol eraill.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau cysylltiedig hyn na dibynadwyedd yr wybodaeth a ddarperir ganddyn nhw ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd o gwbl (boed yn gyfreithiol neu fel arall) am golledion neu ddifrod gan gynnwys y canlynol, ond heb ei gyfyngu i hynny: colledion neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol sy’n deillio o ddefnyddio unrhyw rai o’r gwefannau cysylltiedig hyn neu mewn cysylltiad â nhw.

Ni ddylid cymryd ein bod ni, drwy gynnwys hyperddolenni i wefannau eraill, yn cymeradwyo’r gwefannau hynny mewn unrhyw ffordd.

Amddiffyn rhag Firysau

Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunyddiau ym mhob cam cynhyrchu ond byddai’n ddoeth defnyddio rhaglen wrthfeirysau i wirio pob deunydd sy’n cael ei lawrlwytho o’r Rhyngrwyd bob amser. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw darfu, colled neu ddifrod i’ch data neu i system eich cyfrifiadur a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd a godir o’r wefan hon.

Hawlfraint

Mae’r deunyddiau sydd wedi’u cynnwys ar y wefan hon, gan gynnwys pob testun, logo, eicon, ffotograff a gwaith celf arall, ond heb ei gyfyngu i hynny, wedi’u hamddiffyn gan hawlfraint ac yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, oni nodir yn wahanol.

Ni fydd caniatâd i ddefnyddio’r deunyddiau hawlfraint ar y wefan hon yn cwmpasu deunyddiau y nodwyd eu bod o dan hawlfraint trydydd parti: rhaid cael caniatâd i ddefnyddio’r deunyddiau hynny gan y trydydd parti sydd â hawlfraint arnynt.

Dylai ceisiadau am ddefnyddio deunydd hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gael eu cyfeirio at Gyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.

Ansawdd Data

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth o ansawdd uchel ar y wefan hon a gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth hon yn gywir ac yn gyfredol. Os credwch fod gwybodaeth sydd ar y wefan hon yn hen neu’n anghywir, cysylltwch â’r Gwefeistr yn y cyfeiriad: business@npt.gov.uk

Awdurdodaeth Gyfreithiol

Caiff y telerau a’r amodau hyn eu llywodraethu a’u deall yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd anghytundeb sy’n deillio o’r telerau a’r amodau hyn yn destun awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.