Ffordd Fabian yw’r prif lwybr i mewn i Abertawe o’r dwyrain ar hyd yr M4, ac mae wedi esblygu’n goridor pwysig ar gyfer busnes. Roedd adeiladu canolfan ddosbarthu 800,000 tr.sg. i Amazon yn 2007 – y fwyaf yn y Deyrnas Unedig ar y pryd – yn gatalydd ar gyfer ailddatblygu yn yr ardal. Dilynwyd hynny gan agor Stiwdios y Bae yn 2012 ar safle ffatri rhannau ceir Ford a Visteon gynt.
Efallai mai’r prosiect adfywio mwyaf arwyddocaol ar hyd y coridor 3-milltir hwn oedd Campws y Bae Prifysgol Abertawe. Ar safle 65 erw a fu gynt yn fan trosglwyddo i BP, uchelgais y brifysgol oedd creu campws ymchwil, arloesedd ac addysg o’r radd flaenaf. Gwireddwyd hyn pan agorwyd Campws y Bae yn 2015. Gyda chost o £450 miliwn, roedd yn un o’r prosiectau economi wybodaeth mwyaf hyd yma yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop.
Ymhlith y busnesau eraill yn yr ardal mae Trojan Electronics, UnitBirwelco, Quicklink a Vizolution.