Glannau’r Harbwr

Mae prosiect trawiadol Glannau’r Harbwr wedi cynnwys ailddatblygu ardal y dociau gynt ym Mhort Talbot, gan ei thrawsffurfio’n ganolbwynt masnachol gyda ffocws ar wybodaeth, yn darparu cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddi a swyddi â lefel uchel o sgiliau.

Ceir mynediad i Lannau’r Harbwr ar hyd Ffordd yr Harbwr, ffordd ddosbarthu ymylol newydd sy’n darparu cyswllt uniongyrchol 5-munud o Gyffordd 38 o’r M4. Mae gorsaf reilffordd Parcffordd Port Talbot ychydig funudau o gerdded i ffwrdd, gyda chysylltiadau uniongyrchol cyflym ag Abertawe, Caerdydd a Llundain. Ailddatblygwyd yr orsaf yn 2016, ac mae’n ganolbwynt hwb trafnidiaeth sy’n cyfuno cyfleusterau rheilffordd, bws, tacsi, beiciau a cherddwyr mewn amgylchedd modern diogel.

Mae’r pentref Ymchwil a Datblygu 42,000 tr.sg. yng Nglannau’r Harbwr eisoes wedi denu gweithgynhyrchwyr byd-eang megis Tata Steel a TWI. Mae’r adeilad rhestredig Gradd II a fu’n llys yr ynadon gynt wedi cael ei drawsffurfio’n swyddfeydd modern sydd bellach yn gartref i gwmnïau fel Keytree, ymgynghoriaeth dylunio a thechnoleg, a Deloitte Business.

Bydd y cyfnod nesaf o adfywio yn cynnwys pecyn £2.7 miliwn ar gyfer adfer tir llwyd, adeiladu ffyrdd mynediad, uwchraddio priffyrdd presennol a mesurau lliniaru llifogydd mewn ardal 3-hectar yn ymyl Gorsaf Parcffordd Port Talbot, yn barod ar gyfer datblygiad masnachol. Ar ben hynny, rhoddwyd cymeradwyaeth gychwynnol i Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot ar gyfer campws newydd gwerth £28 miliwn.