Grŵp peirianneg deunyddiau blaenllaw ar lefel fyd-eang yw Wall Colmonoy, sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu cynnyrch arwynebu a phresyddu, castiau, caenau a chydrannau wedi’u peiriannu ar gyfer awyrofod, moduron, cynwysydion gwydr, olew a nwy, mwyngloddio, pŵer ac ynni, a sectorau diwydiant eraill.
Daw enw’r cwmni o’r metalegwyr a ddatblygodd yr aloi cyntaf wynebgaled seiliedig ar nicel yn 1937 – Norman Cole a Walter Edmonds – a’r dyn a brynodd batent Colmonoy y flwyddyn ganlynol, A F Wall.
Symudodd y cwmni o America ei bencadlys yn Ewrop i Bontardawe yn 1969. Dros gyfnod o 50 mlynedd, mae’r cyfleuster wedi tyfu o 33,000 i 70,000 tr. sg. ac mae’n ymfalchïo mewn labordy cemeg ac Ymchwil a Datblygu sydd â’r cyfleusterau diweddaraf, a siop beiriannau lefel uwch.
Mae Dr Chris Weirman, Cyfarwyddwr Technegol, o’r farn y bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn chwarae rhan allweddol yng nghyswllt eu cynlluniau i’r dyfodol.