Gofod swyddfa a labordy o safon uchel i’w rentu
Parc Ynni Baglan, Port Talbot, SA12 7AX
Gyda dyluniad sydd ar flaen y gad a ffyrdd arloesol o ddefnyddio technolegau adnewyddadwy, mae cyfleuster arobryn Canolfan Dechnoleg y Bae yn mynd â gwaith dylunio adeiladau y tu hwnt i sero net.
Mae’r Ganolfan yn cynnig amrywiaeth o ofodau hyblyg ar gyfer egin fusnesau, busnesau cynhenid a mewnfuddsoddwyr, gyda ffocws ar y sectorau Technoleg, Arloesedd ac Ymchwil a Datblygu.
Fe’i lleolir yn un o ranbarthau busnes gorau Cymru, ychydig funudau yn unig i ffwrdd o’r M4 ac yn agos at y brif reilffordd o Abertawe i Lundain.
Mae dyluniad arloesol y Ganolfan ynghyd â’i defnydd deallus o ddeunyddiau wedi creu adeilad sy’n cynhyrchu mwy o ynni nag y mae’n ei ddefnyddio – adeilad fel gorsaf bŵer, i bob pwrpas, a’r eiddo masnachol cyntaf yng Nghymru i weithredu mewn modd ynni-bositif.
Mae’r canlynol i’w cael yn y cyfleuster:
▪ 23 o swyddfeydd sy’n amrywio o 215 i 1000 troedfedd sgwâr
▪ 8 uned labordy sy’n amrywio o 215 i 753 troedfedd sgwâr, ar Lefel Bioddiogelwch 1 o leiaf
▪ Cysylltedd ffeibr
▪ Ystafelloedd cyfarfod ac ardaloedd ymneilltuo
▪ Lleoedd parcio ar y safle (gan gynnwys mannau gwefru cerbydau trydan a mannau storio beiciau)
▪ Cyfleoedd i gael cymorth a chyllid i fusnesau (yn amodol ar gymhwysedd) er mwyn eich helpu i ddechrau gweithredu a/neu ddodrefnu labordai
▪ Agosrwydd at academia ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
▪ Cegin gyffredin a chyfleusterau cawod.
RHENT – £10 FESUL TROEDFEDD SGWÂR A THÂL GWASANAETH O £6.50 FESUL TROEDFEDD SGWÂR